Beth Sydd Ymlaen?

10/07/2008 Comedi Stand-yp: Gethin Thomas a Daniel Glyn
Lleoliad: Ty Siamas
http://tysiamas.com
Dechreuodd Gethin Thomas ei yrfa stand-up yn 1991. Gwnaeth Daniel Glyn ei gig gynta wythnos yn ddiweddarach, ffaith nad yw Gethin erioed wedi gadael iddo anghofio! Maent hefyd wedi ysgrifennu dros 300 o sgriptiau comedi ar gyfer radio a theledu, gan gynnwys Radio Cwm Cwat, Y Rhaglen Wirion ‘Na, Hotel Eddie a Dyna Bechod. Dyma gyfle i weld eu sioeau stand-up newydd sbon. 8.30pm £8
16/07/2008 Jamio yn y bar
Lleoliad: Ty Siamas
http://tysiamas.com
Am Ddim! 8pm Cyfle i chi ddod a'ch offeryn ac ymuno yn yr hwyl, neu eistedd yn ol a mwynhau y gerddoriaeth.
16/08/2008 Wil Tan; Kevin & Ed Arnold
Lleoliad: Ty Siamas
http://www.wil-tan.com
Wil yw cerddor mwyaf poblogaidd Cymru heddiw, yn llenwi cyngherddau bob penwythnos. Gyda 3 albwm wedi ei ryddhau Wil yw'r cerddor sy'n cael ei gwisio am dan fwyaf ar Radio Cymru. Tad a Mab lleol yw Kevin ac Ed Arnold sydd yn gwneud ail ymddangosiad yn dilyn galw poblogaidd. Mae eu gallu lleisiol a dawn arbennig ar y gitar yn sicr o ddiddanu a chyfareddu.
05/10/2008 Ed Arnold
Lleoliad: Bar Ty Siamas
http://www.EASrecording.co.uk
Am Ddim! Yr Hwyr. Y Gitarydd talentog lleol yn diddanu.
17/10/2008 Dafydd Iwan
Lleoliad: Ty Siamas
http://www.dafyddiwan.com
Manylion iw cadarnhau
03/12/2008 Meic Agored
Lleoliad: Bar Ty Siamas
http://www.tysiamas.com
Noson wych gyda cherddorion o bob cwr yn teithio i Dy Siamas i ymuno mewn sesiwn werinol arbennig, sydd yn cael ei fwynhau gan bawb!
09/12/2008 Sara Mai a'r Moniars
Lleoliad: Ty Siamas
http://www.ymoniars.co.uk
Manylion iw cadarnhau
Siop Ty Siamas
Caffe & Bar

Adobe Flash