HanesMae Ty Siamas wedi ei leoli yn un o brif adeiladu tref hynafol Dolgellau, Meirionnydd. Hanes yr AdeiladOes FictoriaCodwyd yr adeilad mawreddog sydd yn gartref i Dy Siamas yn oddeuty 1870 ar hen safle farchnad sgwar Dolgellau. Fe’i hadeiladwyd yn wreiddiol fel Neuadd farchnad ac Ystafelloedd Ymgynull yn oes Fictoria. Ni does yna wybodaeth ar gael ynghylch pwy gynlluniodd yr adeilad, ond mae rhai yn tybio mai pensaer Eidalaidd a’i luniodd, oherwydd y bwau nodedig sydd ar hyd dwy ochr gyhoeddus yr adeilad – yr ochrau Dwyreiniol a Deheuol. Heddiw mae yna rodfa yn mynd ar hyd yr ochrau yma, ond mae’n bur debyg nad oedd y rhain yn rhan o’r cynllun gwreiddiol, oblegid fod yna olion muriau ar hyd ochrau y bwau. Mae yna hefyd luniau ar gael o flynyddoedd cynnar yr G20 yn dangos gatiau yn hongian oddi ar fwau ochr ddeheuol yr adeilad. Dechrau'r 20fed GanrifYn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf defnyddiwyd yr adeilad i storio grawn. Yna yn yr adeg rhwng y rhyfeloedd dechreuwyd ei ddefnyddio fel sinema. Mae’n bur debyg taw yn yr adeg yma y cyflwynwyd y Galeri ar ochr ddwyreiniol yr adeilad, gyda Ystafell gyfarfod yn creu ail lawr. Efallai i’r adeilad golli ei defnydd fel Neuadd Farchnad yn yr adeg yma. 1948Ym 1948 cynhaliwyd yr Eisteddfod Frenhinol Genedlaethol yn Nolgellau. Dyna pryd yn newidiwyd yr enw i fod yn Neuadd Idris. Cafwyd tipyn o ddatblygiadau yn yr adeilad wrth baratoi at yr Eisteddfod. Mae’n debygol mai yn yr adeg yma y cyflwynwyd y staer llydan nodedig sydd yn eich croesawi wrth ichi fyned yr adeilad. Cafwyd hefyd lwyfan newydd ar ben orllewinol yr adeilad; mynedfeydd newydd i’r brif Neuadd, a thoiledau newydd ar y llawr gwaelod, ynghyd a newidiadau eraill. 50au - 90auAm y rhan fwyaf o ail hanner yr Ugeinfed ganrif defnyddiwyd y Neuadd fel neuadd ddawnsio, ac roedd yn gyrchfan poblogaidd i bobl o bell ac agos. Yn y 50au a’r 60au roedd yn boblogaidd fel cyrchfan i ddawnsio gwerin. Yna yn y 70au ymlaen doth yn boblogaidd ar gyfer disgo’s, gigs a chyngherddau. Roedd DADS hefyd yn ymarfer a pherfformio yno – y Dolgellau Amateur Dramatic Society, a chynhaliwyd sawl cyfarfod gwleiddydol yno, a datganiadau etholiadau, megis etholiad Dafydd Elis Thomas ym 1974. Cynhaliwyd y Sesiwn fawr cyntaf yn neuadd Idris ym 1992. Serch hynny aeth yr adeilad yn raddol allan o ddefnydd, ac yn Awst 2000 cynhaliwyd y digwyddiad cyhoeddus olaf yno, y Last Waltz. Er i’r adeilad gael ei ddefnyddio ar gyfer ffilmio ffilm S4C Eldra, ni ddefnyddiwyd yr adeilad yn gyhoeddus eto tan i Dy Siamas agor ym Mehefin 2007. Pam 'Siamas'?Elis Siôn SiamasPwy oedd y dyn y mae ei enw wedi’i goffáu yn Dŷ Siamas? Er bod enw Elis Siôn Siamas o Lanfachreth yn fyw o hyd, ychydig iawn a wyddom am y dyn na’i waith. Mae’n amlwg ei fod yn delynor adnabyddus o statws. Mewn hanes gan Iolo Morgannwg (m. 1826) am ymweliad â thafarn y Llew Aur yn Nolgellau yn 1800 mae’n crybwyll cyfarfod offerynwyr oedd yn chwarae’r delyn a’r crwth. Dywedodd y rhain wrth Iolo mai Siamas oedd y person cyntaf i wneud telyn deires, ac iddo fod yn delynor i’r Frenhines Anne (m. 1714). Dywed Iolo ‘Roeddent i gyd yn gytûn am y stori, a’i bod yn gyfarwydd iddynt i gyd, ac na ellid ei hamau.’ Er bod Iolo Morgannwg yn enwog ei hunan am greu chwedleuon a ffugio dogfennau hanesyddol, mae’n bosib fod yr hanes yma am Siamas yn ffaith; mae dwy gerdd anhysbys yn cyfeirio ato fel hyn:
Wyddoch chi? Cydnabyddir heddiw mai Siamas oedd y cerddor cyntaf i lunio telyn deires yng Nghymru. Credir bod ei ddisgynyddion yn dal i fyw yn ardal Dolgellau. Beth Sydd Ymlaen Nesaf...
10/07/2008 Comedi Stand-yp: Gethin Thomas a Daniel Glyn16/07/2008 Jamio yn y bar16/08/2008 Wil Tan; Kevin & Ed Arnold05/10/2008 Ed Arnold17/10/2008 Dafydd IwanNewyddion Diweddaraf 28/05/2008 Gwersi Mandolin15/05/2008 CHWEDL A CHAN O GYMRU - SGWRS YN SAESNEG 15/05/2008 GWERSI FFIDIL15/05/2008 GWERSI GITAR06/03/2008 Penwythnos Jazz Dolgellau |