I gael y Newyddion diweddaraf wedi ei e-bostio i'ch cyfrif, rhowch eich cyfeiriad e-bost yn y  blwch isod a gwasgwch y botwm
Neuadd Idris

Adeiladwyd Neuadd Idris ym 1870 fel neuadd farchnad ar gyfer tref brysur Dolgellau gyda’r lloriau uwchben yn cael eu defnyddio fel ystafelloedd ymgynnull. Mae'r adeilad mewn safle delfrydol ar y Sgwar a fu'n enwog am gynnal ffeiriau a gwyliau ar hyd y canrifoedd.

Yn yr 1920au a 30au dangoswyd ffilmiau a dramâu cenedlaethol yn y neuadd. Galwyd yr adeilad yn ‘Neuadd Idris’ am y tro cyntaf pan ddaeth yr Eisteddfod Genedlaethol i Ddolgellau yn 1949. Yn ystod y 50au a 60au roedd dawnsfeydd gwerin yn eu hanterth a bu’r neuadd yn ganolfan iddynt.

Cliciwch yma am daith weireddol (virtual tour) o Neuadd Idris

©2008 Canolfan Tŷ Siamas  
Tŷ Siamas D/o Tŷ Meirion, Sgwar Eldon, Dolgellau, Gwynedd LL40 1PU          Ffon: 01341421800
Ty Siamas Banner