Newyddion Ty Siamas
28/05/2008 - Gwersi Mandolin
Mae ganddo 47 mlynedd o brofiad mewn chwarae gitar acwstig, electrig a bas mewn amryw ddulliau yn cynnwys y blws, gwerin, ffync, reggae, roc, roc-a-rol, ac mae’n chwarae’r mandolin gyda’r Boggy Mountain Boys.
Mae’r ffocws ar ddysgu’r offeryn a datblygu perthynas a hi, nid yw’n gweithio ar gyfer arholiadau neu raddau er fod cyfarwyddiadau mewn theori cerddoriaeth a thabl nodiant ar gael (ond ddim yn orfodol).  Ei arwyddair yw
"Mae cerddoriaeth i fod yn bleser."
Parthed trwsio offerynnau a chribellau bu iddo redeg adran drwsio (yr Ysbyty Gîtar) mewn siop ym Manceinion am 10 mlynedd ac bellach mae’n gweithio o’i weithdy adref. Mae gwersi cynnal a chadw offerynnau ar gael hefyd.
15/05/2008 - CHWEDL A CHAN O GYMRU - SGWRS YN SAESNEG
Croeso i flas o'r iaith, caneuon, alawon, y delyn Gymreig, ein gwisg draddodiadol, te p'nawn blasus a mynediad i'r arddangosfa. Cyflwyniad gan Rhiain Bebb.
oedolion £7.50 Plant £3.50
Tocyn Teulu ( 2x oedolion + 2x plant ) £20
15/05/2008 - GWERSI FFIDIL
gyda GARY MATTHEWSON
(dysgu drwy gyfrwng y Saesneg)
10 GWERS = £50
15/05/2008 - GWERSI GITAR
bob nos Fercher rhwng 6 -7 pm
efo Osian Morris
Dysgu drwy wrando a sylwi - does dim rhaid gallu darllen cerddoriaeth
10 gwers = £50
cysyllwtwch efo Mair cyn Mai 30
06/03/2008 - Penwythnos Jazz Dolgellau
Mae Ty Siamas a Chlwb Cerddoriaeth Dolgellau yn cydweithio i ddod a'r Jazz gorau i ogledd orllewin Cymru.
Ar nos Iau Mawrth 13 bydd Ty Siamas yn cyflwyno noson o alawon traddodiadol ar arddull Jazz yng nghwmni y band Jazz Burum a'r delynores enwog Llio Rhydderch.
Mae'n gyfle i glywed dau fyd cerddorol yn uno ac yn cyd-weithio mewn noson greadigol o gerddoriaeth draddodiadol a jazz.
Mae ‘Burum’ yn fand arloesol sy’n uno alawon gwerin Cymreig gydag arddull jazz modern. Mae’r band ar daith o gwmpas Cymru ar hyn o bryd yn ymestyn ei gweledigaeth o uno alawon gwerin Cymru gydag arddull byrfyfyrio jazz modern. Gallwch ddisgwyl clywed nifer o alawon mwya’ adnabyddus Cymru fel na’u chlywyd o’r blaen. Mae’r band yn cynnwys nifer o dalentau’r byd jazz yng Nghymru, yn ogystal â swn unigryw y pibau cyrn Cymreig.
Bydd Burum yn rhannu’r llwyfan, a chyd-chwarae, gyda phrif delynores Cymru, Llio Rhydderch.  Mae Llio yn ymestyn ac yn cyfoethogi'r traddodiad y mae hi mor ganolog iddi, ac yn ei pherfformiadau ar y delyn deires draddodiadol ceir cynildeb syn cyffwrdd â'r enaid ac yn cyfareddu ei chynulleidfa.
Noson o gerddoriaeth o’r safon ucha’ - peidiwch â’i cholli!
Yna ar nos Wener, 14eg, bydd Clwb Cerddoriaeth Dolgellau yn cyflwyno y band enwog y Michael GarrickJazz Quartet yng Ngholeg Meirion Dwyfor.
Mae gan Michael Garrick a'i gyd gerddorion brofiad eang o gyflwyno jazz i gynulleidfaoedd newydd; yn yr un modd maen't wedi ennill clod am eu gwaith cenhadol mewn ysgolion a cholegau.
Hiwmor, bywiogrwydd, a dawn anhygoel yw'r allwedd iw llwyddiant.
Meddai adolygydd o'r Guardian am eu CD diwethaf: "Mae angen atgoffa'r byd fod yna gerddor Jazz sy'n torri cwys newydd yn dal ar waith yn y DU
Yna ar ddydd Sadwrnd mae'r Clwb Cerdd yn trefnu gweithdy Jazz yn Nhy Siamas o 10yb tan 12yh - mynediad am Ddim!
Caidd y gweithdy ei arwain gan aelodau o'r Michael garrick Jazz Quartet.
Mae tocynnau ar gyfer cyngerdd Burum a Llio Rhydderch ar gael drwy ffonio 01341 421800. Tocynnau Michael Garrick Jazz Quartet:  secretary@dolgellaumusicclub.org.uk. Gall pobl sydd am fynychu'r gweithdy Jazz gysylltu a: 01341 450224, neu 01341 421800.
Burum :  www.burum.org
Llio Rhydderch: www.lliorhydderch.com
Michael Garrick Jazz Quartet: http://www.jazzscript.co.uk/extra/int.garrick.htm
27/02/2008 - Jazz yn Nhy Siamas
Hoffwn dynnu'ch sylw i weithdy jazz a drefnir gan Glwb Cerdd Dolgellau yn Nhy Siamas ar fore Sadwrn 15 Mawrth, rhwng 10 a 12 o'r gloch.
Arweinir y gweithdy gan Bedwarawd Michael Garrick, sef Michael Garrick (piano), Martin Hathaway (sacsoffôn), Paul Moylan (bâs dwbl/ukelele) ac Alan Jackson (drymiau). Ysgrifennwyd yn  y Guardian y llynedd, yn sgîl lansiad ei CD diweddaraf 'Inspirations', "the world needs reminding that a UK jazz groundbreaker is still at work."
Os oes gennych ddiddordeb mewn mynychu'r gweithdai yna cysylltwch a ni yma yn Nhy Siamas: 01341 421800.
Michael Garrick: http://www.jazzscript.co.uk/
Cynhelir cyngerdd gan y Pedwarawd yng Ngholeg Meirion-Dwyfor am 7.30yh ar nos Wener 14 Mawrth.
16/01/2008 - Cefnogaeth yr Heddlu!
Dangosodd Clive Wolfendale ddiddordeb mawr yn Nhy Siamas, a chryn dipyn o wybodaeth ynghylch traddodiadau cerddorol Cymru.
Roedd hi'n sioc ar y naw felly i ddarganfod ei fod wedi ysgrifennu am ei ymweliad ar ei flog: http://www.north-wales.police.uk/portal/blogs/dcc/archive/2007/11/14/Cave-Canu.aspx.
11/12/2007 - Ceri Rhys Matthews heno
Ymddiheuriadau os yw hyn yn achosi trafferth i unrhywun.
05/12/2007 - Gwobr i Dy Siamas
Ym Mhlas Tan y Bwlch ar y 15 o Dachwedd 2007, dyfarnwyd 5 “Gwobr Parc Cenedlaethol” gyda chymorth hael Banc Barclays i ddynodi llwyddiant trigolion, sefydliadau a busnesau lleol wrth iddyn nhw gefnogi gwaith ac ethos Parc Cenedlaethol Eryri.
Wrth gyhoeddi’r enillwyr, dywedodd Cadeirydd Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri, y Cyng. Caerwyn Roberts, Y.H. MBE,
“Mae noson fel hon yn gyfle da i ni gael dathlu llwyddiannau ym myd cynllunio. Fel Awdurdod Cynllunio mae tueddiad i feddwl am Barc Cenedlaethol fel corff  negyddol sy’n llesteirio datblygiad. Ond mae gwobrau fel y rhain yn gyfle gwych i ni brofi’n wahanol. Mae enillwyr heno wedi dangos ei bod hi’n bosib i gynllunio mewn modd sy’n wreiddiol, yn heriol, ac yn gyffrous heb lesteirio ar fwyniant arbennig y Parc Cenedlaethol. ”
Wrth ddod at eu casgliad rhaid oedd i’r beirniaid ystyried ansawdd dyluniad y cynllun, gwreiddioldeb yr hyn a gyflawnwyd, elfennau o gynaladwyedd yn y cynllun ynghyd ag ystyried i ba raddau y gallasai’r cynllun fod yn enghraifft neu fodel ar gyfer gwaith arall.
Gwobr newydd yw’r wobr Mynediad i Bawb. Am fod yr Awdurdod yn awyddus i hyrwyddo cyfle a mynediad cyfartal i bawb penderfyniad y beirniaid oedd i ddyfarnu’r wobr eleni i Dy  Siamas Dolgellau. Dyfarnwyd y wobr i’r fenter hon oherwydd penderfyniad a gweledigaeth y trefnwyr i ddiogelu rhywbeth o bwysigrwydd diwylliannol a chenedlaethol, safon rhagorol y gwaith adfer ac ailwampio mewnol ac allanol yr adeilad, y defnydd o ddehongli synhwyrus o fewn yr amgueddfa, ei effaith ar yr ardal yn nhermau creu swyddi a hybu’r Gymraeg a cherddoriaeth Gymraeg, yn ogystal â’r defnydd a wneir o adnodau’r Ganolfan gan y gymuned leol gan gynnwys y tangyflogwyr, ysgolion lleol a cholegau.
Yn ystod y noson, derbyniodd enillydd pob categori blac a thystysgrif yn ogystal â gwobr ariannol gan Fanc Barclays.
Dywedodd Gwynfor Jones, Cyfarwyddwr Ardal  Barclays Commercial Banking,
“ Yr ydym yn Barclays wedi’n hymrwymo i gymunedau ac rydym yn falch iawn o gefnogi Gwobrau Parc Cenedlaethol Eryri. Mae hwn yn enghraifft  fendigedig o staff Barclays yn gweithio’n agos â chymunedau lleol er mwyn cyflawni rhywbeth fydd gobeithio yn gwneud gwahaniaeth real a pharhaol.”
Yn sgil llwyddiant y noson, bwriad Parc Cenedlaethol Eryri  yw parhau i wobrwyo enghreifftiau  da o waith neu brosiectau sy’n cefnogi pwrpasau’r Parc Cenedlaethol.
DIWEDD
Nodyn I Olygyddion:
1.      Mae’r Parc Cenedlaethol yn gwarchod a gwella prydferthwch naturiol, bywyd gwyllt a threftadaeth ddiwylliannol yr ardal ac yn hybu cyfleoedd i’r cyhoedd ddeall a mwynhau nodweddion arbennig yr ardal. Wrth ddilyn yr amcanion hyn, mae’n ddyletswydd arno i feithrin lles economaidd a chymdeithasol cymunedau lleol.
2.      Roedd y Panel o feirniaid yn cynnwys :
·         Peter Ogden, Cyfarwyddwr Ymgyrch Diogelu Cymru Wledig
·         Nick Davies,
·         Colin Antwis, Fieldman’s Trust
·         Kirsty Henderson
07/11/2007 - Canu dros Blant Mewn Angen
Yn ystod y dydd ceir ‘Can Barhaol’ y tu allan i Dy Siamas, gyda chyfres o gerddorion yn chwarae cerddoriaeth neu ganu yn barhaol drwy’r dydd yn cychwyn am 10am, yn eu plith bydd Martin Rowlands, Kevin Arnold, Osian Morris, a Rhiannwen Pugh.  Bydd y digwyddiad yn gorffen gyda noson yng nghwmni y deuawd canu gwlad pologaidd Montre, gyda’r gyngerdd yn cychwyn am 8.00yh.  Yng nghanol y gyngerdd cynhelir ocsiwn addewidion.  Bydd gofyn i bobl noddi y Gan Barhaol, ac mae tocynnau i’r gyngerdd ar werth o Dy Siamas a’r Sospan.
Yn ystod y dydd hefyd bydd staff yn paentio wynebau plant, byddant yn gwisgo i fyny fel cymeriadau cartwn, yn eu plith Jac-y-Jwc a Sali Mali; bydd y ganolfan yn gwerthu amryw o bancwsau (pancakes), ymhlith pethau eraill.
22/10/2007 - Ceri Matthews a mwy!
Chwaraeodd Ceri a Christine am dros ddwy-awr, gyda Ceri yn adrodd hanes bywiog yr alawon gan roi cyd-destun y gerddoriaeth i’r gynulleidfa.  Cafwyd hefyd ambell i alaw o Loegr gyda Ceri yn cofio yn ôl i’r cyfnod pan oedd yn byw yn nwyrain Lloegr, gyda atgofion melys.  Adlewyrchwyd hyn yn y ffordd mwynaidd yr oedd yn ymdrin a’r alawon.
“Gallwn ni ddim dirnad yn llawn pam y bu iddyn nhw gael eu hysgrifennu, a byddwn ni byth yn gwbwl siwr o sut mae’r alawon yma fod i gael eu chwarae – efallai iw cyfansoddwyr eu chwarae mewn modd gwbwl wahanol i ni - ond mae’n nhw fel cysgodion o hanes, ac rydym ni fel trigolion o’r unfed ganrif ar hugain yn eu dehongli a’u chwarae gyda’r digwyddiadau sydd wedi dylanwadu ar ein bywydau ni yn lliwio y ffordd yr ydym ni yn eu canu,” meddai Ceri Matthews wrth gyflwyno un alaw o’r bymthegfed ganrif.
Ceri Rhys Matthews yw un o brif gerddorion y traddodiad gwerin yng Nghymru.  Mae Ceri hefyd yn cynnal cyfres o wersi ar y ffliwt yn Nhy Siamas i bwy bynnag sydd eisiau dysgu’r ffliwt, pibau, neu chwib bob yn ail nos Fawrth. Cynhelir y gwersi nesaf yn Nhy Siamas ar nos Fawrth 30 Hydref, a gall unrhyw un drefni eu gwers drwy ffonio 01341 421800.
Nesaf yn rhaglen Ty Siamas mae’r gantores o Landysul Fflur Dafydd a’i band Y Barf ar nos Wener 26ain.
Wedyn ceir wythnos i ddathlu Calan Gaeaf, hen draddodiad Cymreig sydd yn mynd yn ôl cyn cof.  Ar Calan Gaeaf, Mercher 31 Hydref, bydd cyfle i blant ddod i baentio eu hwynebau yn Nhy Siamas, gyda’r arian yn mynd at achosion da.  Wedyn yn yr hwyr ceir noson iasoer yng nghwmni’r cyfryngwr ysbrydion Elwyn Edwards.  Mae Elwyn wedi gwneud enw iw hunan fel rhywun sydd gyda’r gallu anghyffredin o gysylltu a’r meirw.  Caiff y gynulleidfa gyfle iw holi am ei brofiadau cyn iddo geisio gweld os fydd yna bresenoldeb arallfydol yn eu plith!
Yna ar y nos Wener yr 2il ceir noson ddifyr o straeon arswyd Cymru yng nghwmni Mair Tomos Ifans.
20/06/2007 - Swydd yn Nhy Siamas
CANOLFAN TY SIAMAS       DOLGELLAU
Cyflog   £14,000
Yn ystod mis Mehefin gwelwyd agoriad swyddogol Ty Siamas sy’n Ganolfan Genedlaethol i Gerddoriaeth Draddodiadol Cymreig.  Bydd hon yn Ganolfan fydd yn hybu cerddoriaeth draddodiadol o fewn yr ardal a Chymru.
Rydym nawr yn chwilio am Gynorthwy-ydd i’r Rheolwr i ddarparu cymorth i sicrhau gweinyddiaeth effeithiol, gan gynnwys sustemau ariannol, ac i gynorthwyo yn rhediad cyffedinol y Ganolfan.  Yn atebol i’r Rheolwr byddwch gyda amrywiaeth eang o ddyletswyddau ac yn dod i gysylltiad gyda nifer fawr o ymwelwyr a defnyddwyr o’r Ganolfan.  Bydd angen sgiliau cyfrifiadurol cadarn.
Am fanylion pellach gallwch gysylltu gyda’r Rheolwr am sgwrs anffurfiol Mabon ap Gwynfor ar 01341 421800.
Dylid anfon ceisiadau ysgrifenedig ynghyd â CV cynhwysfawr erbyn dydd Gwener 29 Fehefin 2007 at:
Mabon ap Gwynfor, Ty Siamas, Dolgellau, Gwynedd, LL40 1PY
neu trwy e-bost mabon@tysiamas.com
SWYDD DDISGRIFIAD
(37.5 AWR)  £14,000
Pwrpas y swydd:
I gynorthwyo Rheolwr y Ganolfan gyda’r holl ddyletswyddau gweinyddol, yn cynnwys materion ariannol, ac i gymryd cyfrifoldeb am y derbynfa a’r materion llogi er mwyn sicrhau rhediad effeithiol o’r Ganolfan a’i wasanaethau.
Yn atebol i:
Rheolwr y Ganolfan
Prif Ddyletswyddau/Tasgau Allweddol:
I fod yn gyfrifol am:
·	Cadw cyfrifon manwl gan ddefnyddio sustem Sage gan sicrhau fod yr wybodaeth yn gyfredol a chywir, paratoi gwybodaeth ar daelenni.  Cynnigir cymorth gyda’r elfen yma o’r gwaith, gan osod sustem effeithiol fydd yn cyflwyno gwybodaeth ariannol i’r Rheolwr a’r Bwrdd
·	Cadw cofnod o’r data er mwyn cymharu targedau gyda’r ffigyrau real, a chyflwyno adroddiadau amserol i’r Rheolwr.  Bydd gofyn cynhyrchu gwybodaeth monitro dan gyfarwyddyd y Rheolwr.
·	Trefnu ac arolygu rhediad y dderbynfa, man perfformio a’r arddangosfa
·	Derbyn cyfrifoldeb rheolaidd am y dderbynfa, man perfformio a’r arddangosfa
·	Derbyn cyfrifoldeb am sustem llogi y Ganolfan
·	Cadw cyfrif a diweddaru sustem stoc ym mhob agwedd o’r Ganolfan, archebu nwyddau gyda chaniatad y Rheolwr
·	Cyd weithio gyda Rheolwr y siop, a staff y caffi/bar.
·	Sicrhau fod adnoddau’r Ganolfan mewn trefn ac yn barod i’w defnyddio
·	Sicrhau fod safonnau yr atyniad yr uchaf bosibl a chymryd cyfrifoldeb am ddelio gyda phroblemau ee sbwriel, glendid, sicrhau fod yr adnoddau technegol yn gweithio ayb.  Cyflogir glanhawr yn ogystal.
·	Rhoi gwybod yn syth i’r Rheolwr am unrhyw adnodd sydd wedi torri neu ddim yn gweithio a chynorthwyo gyda’r gwaith o drefnu gwaith atgywiro
·	Trefnu fod ffurflenni arfarnu yn cael eu casglu ac adrodd i’r Rheolwr am unrhyw ddiffygion
·	Paratoi cymorth gweinyddol cyffredinol yn cynnwys teipio llythyrau, adroddiadau, casglu data ayb
·	Derbyn unrhyw ddyletswyddau arall a all godi o bryd i’w gilydd er mwyn sicrhau llwyddiant y prosiect.
Amodau
·	Telir cyflog yn fisol.  Ariannir y swydd yma gan grantiau hyd Fehefin 2008, bydd parhad i’r swydd wedi hyn yn llwyr ddibynnol ar lwyddiant y Ganolfan i greu incwm a’r sicrwydd fod cyllid ar gael i’w hariannu.
·	Bydd y cynorthwy-ydd yn atebol i’r Rheolwr a thrwyddo ef i aelodau Bwrdd Cwmni Siamas Cyf
·	Bydd y cyfnod rhybudd yn un mis o du’r cwmni ac o du’r aelod staff
·	Oriau sylfaenol fydd 37.5 awr/wythnos.  Bydd y swydd yn golygu bydd gofyn gweithio rhai penwythnosau mewn rota, gwyliau cyhoeddus, ac yn achlysurol gyda’r nos.  Bydd angen gweithio patrwm waith sy’n adlewyrchu gofynion y Ganolfan ac mae’n bosibilrwydd bydd angen mabwysiadu sustem o ‘oriau blynyddol’ h.y. gweithio oriau hirach yn ystod cyfnodau prysurach a gan weithio wythnos fyrrach yn ystod Tachwedd – Chwefror
·	Cynigir 20 diwrnod o wyliau yn ystod y 5 mlynedd cyntaf o gyflogaeth, 25 diwrnod ar ol 5 mlynedd a 30 diwrnod ar ol 10 mlynedd.  Cynigir 8 diwrnod o wyliau statudol yn ogystal (neu ddiwrnodau ‘in lieu’)  Bydd rhaid cymryd gwyliau ar gyfnodau sy’n gyfleus i rediad y Ganolfan.
·	Bydd cyfnod prawf o 6 mis
·	Bydd yr unigolyn yn gyfrifol am unrhyw daliadau i gynllun pensiwn
·	Cyngir 40c/filltir am deithio ar fusnes y Ganolfan.
Dylid anfon ceisiadau ysgrifenedig ynghyd a CV at :
07/06/2007 - Mwy o wybodaeth am daith Paul Dooley
GWEITHDY  TELYN
Gan
PAUL DOOLEY
yn
C3, Galeri, Caernarfon
Nos Fercher, Mehefin 13, 2007
4:30 - 6:00pm
Pris:  £3 plant, £5 oedolion
CYFLE   UNIGRYW I   DDYSGU  MWY   AM  GERDDORIAETH
ROBERT AP HUW
GYDAG  UN  O  BRIF ARBENIGWYR Y   DELYN  WYDDELIG
8pm   PERFFORMIAD  gan
PAUL DOOLEY
yn GALERI, CAERNARFON
* COFIWCH AM Y SESIYNAU CHWARAE GYDA PAUL DOOLEY YN Y SHIP, DOLGELLAU, THEATR Y DDRAIG, BERMO A'R INSTITIWT, CORRIS
(yn yr wythnos canlynol)
01/06/2007 - Taith Paul Dooley
Mehefin 13 - 4:30 - 6:00
Gweithdy Robert ap Huw
8:00   Bar, Y Galeri, Caernarfon
Mehefin 14 - 5:00 - 6:00 Y Ship, Dolgellau*
Mehefin 15 - 7:00 Theatr y Ddraig, Bermo *
Mehefin 16 - 7:30 Noson Ty Siamas, Dolgellau
Mehefin 17 - 7:00 Yr Institiwt, Corris *
Mehefin 20 - 7:30 Y Drwm, Aberystwyth.
(* - Sesiynau chwarae agored ar ddechrau'r nosweithiau yma o 7:00- 8:00, ac yn y Ship, Dolgellau ar y 14eg o 5:00 -6:00 - Agoriad Ty Siamas- dewch i ymuno!)
Mae'r perfformwyr eraill yn cynnwys Eleri Turner, Harriet Earis, Twm Morys, Rhiain Bebb, Ensemble Ysgol y Gader, Rhianwen Pugh, Telynorion Bro Dafydd a Llanciau'r Llafnau a mwy..
AM FWY O WYBODAETH CYSYLLTWCH A TY SIAMAS
01341 421 800 neu'r lleoliadau gwahanol:
Canolfan Gerdd William Mathias (Caernarfon)- 01286 685230
Theatr y Ddraig 01341 281697
Institiwt Corris 01654 761346
26/04/2007 - Arddangosfa Prosiect Ysgolion lleol
Bydd y gwaith yn cael ei arddangos yn y canolfannau canlynol yn Nolgellau dros yr wythnos nesaf:
O ddydd Iau, 26ain o Ebrill hyd at ddydd Mawrth,1af o Fai – Llyfrgell y Dref.
13/04/2007 - Bron a gorffen!
Mae'r adeilad wedi ei drawsnewid yn llwyr, ac mae pawb yn yr ardal yma yn cyfeirio at pa mor ffres y mae'n edrych.  Bydd gweld wynebau pawb wrth iddyn nhw fynd i fewn 'yn bictshwr', fel ni'n weud yn y de!
Dyma felly gyflwyno i chwi y lluniau diweddaraf.
07/03/2007 - Rhodd gwerthfawr i Siamas
Mae Roy Saer yn nodedig fel arbenigwr yn ei faes ar ol bod yn gweithio yn yr adran traddodiadau a thafodiaethau yn yr amgueddfa werin Sain Ffagan rhwng 1963 a 1995.  Cychwynodd yno fel cynorthwydd ymchwil gan deithio hyd a lled Cymru yn gwneud recordiadau gwerthfawr yn cofnodi hen arferion a thraddodiadau, cyn mynd ymlaen i fod yn bennaeth ar yr adran bywyd diwyllanol.  Yn ystod ei gyfnod yno cyhoeddwyd ar sain Caneuon Llofft Stabl a Hanes y Delyn yng Nghymru mewn lluniau.  Bellach mae wedi ymddeol, ond ef yw llywydd y Gymdeithas Alawon Gwerin, ac yn gadeirydd is-bwyllgor alawon gwerin Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd, 2008.
Mae Roy wedi rhoi ei gasgliad o Taplas, y cylchgrawn ar gyfer cerddoriaeth gwerin yng Nghymru a’r gororau; SwaFF News, sef y cylchgrawn ar gyfer cerddoriaeth gwerin yn Ne Cymru oedd yn bodoli cyn Taplas; cylchgrawn Dawns o 1981 – 2000; Llafar Gwlad; Allwedd y Tannau; a chylchgronnau eraill.  Mae rhai yn dyddio yn ol i 1948.  Ynddynt maen’t yn adrodd cyfrolau am y traddodiadau gwerin yng Nghymru yn ystod ail hanner yr 20fed ganrif.
Meddai Mabon ap Gwynfor, rheolwr Ty Siamas
“Mae gan Roy Saer wybodaeth heb ei ail am y traddodiadau gwerin, ac yn wybyddus i bawb fel arbenigwr yn y maes.  Mae wedi bod yn ofnadwy o garedig yn rhoddi’r cylchgronnau yma i ni yn Nhy Siamas, a gobeithiwn allu adeiladu ar hyn i ddatblygu archif gwerthfawr yn ymwneud a’r traddodiadau gwerin yng Nghymru.  Rydym yn ddiolchgar iawn iddo.”
Bydd Ty Siamas yn agor ddiwedd mis Mai.  Arienir y fenter gan Amcan 1, Cyngor Sir Gwynedd, Llywodraeth Cynulliad Cymru, a Chronfa Arbrofol Eryri.
Diwedd
Nodiadau:
Llun: Roy Saer yn rhoi rhai o'r cylchgronau i Mai Parry Roberts, aelod o bwyllgor rheoli Ty Siamas.
Ty Siamas yw’r Canolfan Genedlaethol ar Gyfer Cerddoriaeth Gwerin.
Bydd gan Dy Siamas arddangosfa aml-gyfrwng gyffrous, awditoriwm ar gyfer cyngherddau, a chaffi/bar.
Mae Ty Siamas wedi ei leoli yn yr hen Neuadd Idris ar sgwar Dolgellau.
Bydd Ty Siamas yn agor i’r cyhoedd ddiwedd mis Mai, 2007.
Bydd agoriad swyddogol Ty Siamas o’r 14eg i’r 17eg o Fehefin.
Enwyd Ty Siamas ar ol y Telynor o Lanfachreth, Elis Sion Siamas, oedd yn byw ddechrau’r ddeunawfed ganrif, ac y tybir mae ef oedd y cyntaf i gyflwyno y delyn deires i Gymru.
24/01/2007 - Ffilmio'r Arddangosfa
Yn gyntaf mae'n rhaid rhoi diolch mawr i Bob Delyn a'r Ebillion a Gwyneth Glyn am berfformio mor wych yn ein gig ym Mlaenau Ffestiniog, nos Sadwrn 20fed Ionawr.  Roedd hi'n noson rhagorol o gerddoriaeth, ac mi ffilmiodd y criw sydd yn gwneud yr arddangosfa y cyfan!
Mae'r criw ffilmio wedi bod draw yma yn Nolgellau ar sawl achlysur bellach yn ffilmio y Plygain ym Mallwyd, y Fari Lwyd yn Ninas Mawddwy, Sian James a Dafydd Iwan yn perfformio yn Llanerfyl, mynyddoedd, llynnoedd, chwareli, cestyll, abatai, y glannau a llu o bethau hynod eraill.
Mae'r arddangosfa yn addo i fod yn wirioneddol gyffrous!
12/01/2007 - Cylchlythyr Gaeaf 2006
Cylchlythyr Gaeaf 2006 Ty Siamas (PDF)
07/12/2006 - Adeiladu - y diweddaraf.
Serch hynny mae'r gwaith yn mynd rhagddi yn rhagorol, gyda'r awditoriwm wedi hen gymryd ei le, a'r llawr newydd uwch-ben ardal y prif fynedfa wedi ei osod, gyda tho uwch ei ben.