| 11/08/2022 |
Clera @ Ty Siamas
Lleoliad: Ty Siamas http://www.clera.org Hoffech chi gymryd rhan mewn diwrnod o gerddoriaeth Gymreig draddodiadol? Mae Ty Siamas a Clera yn dod ynghyd yn Nolgellau ar Dachwedd 22 ar gyfer bore o weithdai a phrynhawn yng nghwmni’r Glerorfa – cerddorfa werin newydd Cymru. Dewch i Dy Siamas ar Dachwedd 22 am 9.30yb, does dim raid i chi gofrestru ymlaen llaw. Bydd Y Glerorfa yn ymarfer yn ystod y prynhawn yn Ysgol y Gader, ac o 2.00-2.30p.m. fe fydd cyfle i’r rhai a gymerodd ran yn y gweithdai yn y bore i gyd-chwarae rhai alawon. |